P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tassia Haines, ar ôl casglu cyfanswm o 14,106 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso’n ddybryd gan y system. Ar hyn o bryd dim ond un nyrs glinigol arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru, sefyllfa a allai adael cannoedd o bobl heb ddigon o gymorth. Mae angen i ni wybod faint o bobl sy’n byw gyda chanser y fron metastatig er mwyn gwella gwasanaethau. Ac rydym am wella canlyniadau o ran ansawdd bywyd drwy godi ymwybyddiaeth o symptomau baner goch ar gyfer canser y fron metastatig.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rydym yn galw am y canlynol:

1. Dylai pob person â chanser y fron metastatig yng Nghymru gael mynediad at nyrs glinigol arbenigol neilltuedig ar gyfer canser y fron eilaidd.

2. Dylid casglu data am y rhai sy’n byw â’r cyflwr ac yn cael triniaeth ar ei gyfer yng Nghymru.

Rydym wedi ysgrifennu llythyr agored at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ran cleifion canser y fron metastatig i ddangos yr angen am well ansawdd bywyd a mwy o gefnogaeth i’r rhai sy’n byw â’r cyflwr.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Aberafan

·         Gorllewin De Cymru